Palas yr Esgob

Mae’r cysylltiad rhwng Esgobion Tyddewi ac Abergwili’n mynd nôl dros 700 o flynyddoedd. Dechreuodd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg pan sefydlodd yr Esgob Thomas Bek goleg eglwysig o 21 o offeiriaid yn Abergwili. Roedd hyn ar adeg pan oedd yr eglwys yn berchen ar dipyn o dir yn yr ardal. Yn wir, ar yr adeg hon, roedd Abergwili’n un o’r pedair tref yn Sir Gaerfyrddin yr oedd Esgobion Tyddewi’n berchen arni. Parhaodd y coleg a sefydlwyd gan Bek yn Abergwili tan ganol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Ym 1541, penderfynodd yr Esgob William Barlow, oedd yn teimlo bod Tyddewi’n rhy anghysbell i fyw yno symud y coleg i Aberhonddu er mwyn iddo allu troi Abergwili’n gartref newydd iddo. Parhaodd ei balas yn gartref i Esgobion Tyddewi am y 431 o flynyddoedd nesaf.

Pan ddaeth Richard Davies yn esgob ym 1561, trodd y palas yn gartref i’r Dadeni yng Nghymru. Daeth arlunwyr, awduron a beirdd i Abergwili gan gynnwys William Salesbury, sef prif ysgolhaig Cymraeg y Dadeni. Wrth aros yn Abergwili ac wrth weithio gyda’r Esgob Davies, lluniodd y cyfieithiadau Cymraeg cyntaf o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin. Er gwaethaf hyn, ymhen rhai blynyddoedd ar ôl marwolaeth Davies ym 1581, disgrifiwyd bod y palas yn adfail eithafol.

Daeth William Laud yn Esgob ar Dyddewi dan Siarl I ond dim ond dwywaith yr ymwelodd â’r palas. Er gwaethaf hyn, gadawodd waddol parhaol yn Abergwili, gan fod y capel ar y llawr cyntaf wedi’i godi yn dilyn cais ganddo. Cysegrodd yr Esgob Laud y capel wrth ymweld am yr eildro a’r tro diwethaf ym 1625. Mae’r capel yn dal i fod yna heddiw, ond mae’r hyn a welwn nawr o ganlyniad i ailadeiladu helaeth yn dilyn tân a losgodd y palas yn ulw ym 1903.

bishoplaudschapel

Capel yr Esgob Laud cyn y tân ym 1903
Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

bishopslaudchapeltoday

Capel Laud heddiw

O weld y palas mewn cyflwr dirywiedig, cafodd waith adnewyddu mawr ei wneud rhwng 1713 ac 1722 dan ddwylo’r Esgob Adam Ottley a gostiodd o leiaf £370 – mae hyn yn gyfwerth â sawl miliwn o bunnoedd heddiw. Ac eto, 35 mlynedd yn ddiweddarach, disgrifiwyd bod y palas mewn cyflwr gwael iawn unwaith eto.

Mae’n rhaid bod gwaith atgyweirio wedi’i wneud gan fod Mary Morgan, teithwraig tuag at ddiwedd y 18fed ganrif, wedi canmol y tŷ, y tir a’i leoliad mewn dyffryn gan ddweud bod awduron eraill wedi bod yn rhy llym eu beirniadaeth o adeilad y palas yn y gorffennol.

palacekitchen

Cegin y palas

Cynhaliodd yr Esgob Arglwydd George Murray addasiadau mawr i’r palas a’r tir ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar yr adeg hon, o ganlyniad i lifogydd difrifol ym 1802, newidiodd Afon Tywi ei chwrs i ffwrdd o Barc yr Esgob. Roedd cwrs newydd yr afon ymhellach i gyfeiriad y de ar draws lawr y dyffryn, gan adael dim ond llyn dolennog oedd yn datgelu lleoliad ei gwrs gwreiddiol. Daeth y llyn hwn yn adnabyddus fel ‘Pwll yr Esgob’ ac mae’n parhau heddiw ar hyd pen dwyreiniol y tir fel hafan i fywyd gwyllt a phlanhigion.

Dim ond rhai blynyddoedd ar ôl y gwaith ailadeiladu gan Esgob Murray, pan ddaeth John Jenkinson yn esgob ym 1825, roedd y palas bron yn adfail unwaith eto. Gwariodd yr Esgob Jenkinson ei arian ei hun i ailadeiladu’r adeilad bron yn gyfan gwbl ar Ffurf Elisabethaidd. Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, disgrifiwyd y palas fel ‘plasty uchelwrol gydag agwedd Elisabethaidd hardd’, ‘yn gain ac yn helaeth’.

palaceeastlawn1870

Palas a lawnt y dwyrain ym 1870
Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

Ychydig newidiodd y palas yn ystod gweddill y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yna bu trychineb ym 1903. Dinistriodd tân simnai’r rhan fwyaf o’r adeilad, gan gynnwys Capel Laud. Atgyweiriwyd y palas rhwng 1904 ac 1907 a bu’r esgob yn byw yn Neuadd Middleton, Llanarthne yn ystod y cyfnod hwnnw.

palacefollowingfire

Y palas yn dilyn tân 1903, o edrych o gyfeiriad y de-ddwyrain, gellir gweld y capel ar ochr chwith bellaf y llun
Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

palacediningroom1910

Ystafell fwyta’r palas yn oddeutu 1910
Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

Ym 1972, codwyd Palas newydd yr Esgobion ar ran o’r gerddi i ochr orllewinol yr adeilad presennol. Mae’r palas newydd hwn yn parhau i fod yn gartref i Esgob Tyddewi, gan gynnal cysylltiad hir Abergwili gyda’r swydd.

Cymerodd yr awdurdod lleol gyfrifoldeb dros yr hen balas a gweddill y tir ym 1974 a phedair blynedd yn ddiweddarach, ail-agorwyd y palas fel cartref newydd Amgueddfa ryfeddol Sir Gaerfyrddin.

coracle

Cwrwgl sydd i’w weld yn yr amgueddfa; mae cwryglau wedi’u defnyddio i bysgota Afon Tywi ers canrifoedd

Comments are closed