Taith Gerdded Afon Gwili a’r Rheilffordd

3¼ milltir/5¼ KM

wgwiliriverrailwaywalk

Gadewch faes parcio Parc yr Esgob drwy’r porth i’r chwith o’r Lodge a throi i’r chwith. Cerddwch drwy hen bentref Abergwili, gan sylwi ychydig cyn i chi adael y pentref, y berllan gymunedol ar y dde, lle planwyd afalau Cymreig cynhenid, a hefyd meinciau garw a ‘pholyn totem’! Yna ewch drwy’r gatiau llifogydd, sy’n cau’r ffordd pan fydd y dŵr yn uchel.

Ewch ymlaen ar draws y gorlifdir a’r bont dros yr afon Gwili ( sy’n ymuno â’r Tywi gerllaw) , ac yna’r bont dros y ffordd ddeuol.

Yn syth ar ôl y ffordd ddeuol, trowch i’r dde i ddilyn llwybr beiciau tu ôl i ysbyty Glangwili lle rhedai rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth ers talwm. Sylwch ar eich chwith gafn melin diddorol ac ar y dde gorsaf newydd Cyffordd Abergwili lle fyddai llinellau Aberystwyth a Llandeilo yn ymwahanu gynt. Adeg yr ail ryfel byd, ysbyty byddin yr Unol Daleithau oedd ar safle’r ysbyty presennol, a hwnnw dan ganfas, cyn dod yn wersyll carcharorion rhyfel.

Parhewch ar hyd y llwybr beicio ac yna ar hyd llwybr carregog nes dod allan ar ffordd brysur. Dilynwch y llwybr gyferbyn, ewch drwy gât ac ymlaen yn ymyl y coetir, gyda’r cafn dal ar eich chwith, hyd nes i chi gyrraedd y rheilffordd wedi’i adfer. Rhaid fod yr arglawdd yr ydych yn cerdded ar ei hyd wedi ei hadeiladu i greu y cafn. Trowch yn sydyn i’r dde wrth yr arwydd llwybr troed i gerdded wrth ochr y rheilffordd nes cyrraedd y groesfan. Croeswch yn ofalus, ewch trwy 3 giât a’u cau ar eich ôl.

Ar gyrraedd yr afon Gwili, sydd wedi dod yn afon sylweddol ar ei thaith fer o goedwig Brechfa, trowch i’r dde i basio rhwng y tŷ a’r afon ac yna ar hyd y dreif i gyrraedd y ffordd fawr.

Croeswch y ffordd a lawr y grisiau, yna i’r chwith dros yr hen bont adeiladwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif ar gyfer y ffordd dyrpeg o Gaerfyrddin i Lanbedr Pont Steffan. Yna dilynwch y palmant fyny am 200 metr a throi i’r dde wrth arwydd llwybr troed i fynd drwy’r porth i Gastell Pigyn.  Gadewch y lôn trwy giât 200 metr ar y dde, wrth yr arwydd ‘preifat’, a dilyn ymyl y cae ar waelod llethr coediog. Mae giât yn eich arwain chi at ffordd fach (Heol Castell Pigyn). Trowch i’r dde.

Mae pont yn mynd â chi dros nant Crychiau, sy’n llifo i’r Gwili, ac a fu gynt yn pŵeru ffatri wlan Crychiau a melin ŷd yr Esgob a welwch ychydig ymhellach ar hyd y ffordd. Ar y chwith cyn hynny  gwelwch dŷ ‘Glyn Aur’ sy’n enwog am erddi ‘topiary’ nodedig ar thema beiblaidd a ddenai dwristiaid o bell yn nechrau’r ganrif ddiwethaf. Ewch drwy’r rhan nesaf o’r pentref, gyda chae rygbi Quins Caerfyrddin ar y dde. Heibio’r tai cymrwch lwybr i’r dde sy’n eich arwain chi at bont i gerddwyr dros yr A40. Edrychwch i’r chwith. Tan 1963 byddech wedi gweld yno orsaf rheilffordd Abergwili. Adeiladwyd y ffordd ddeuol newydd ar hyd lôn y rheilffordd gynt.

Ewch dros y bont ac yn eich blaen ar hyd llwybr i’r ffordd fawr, ac yna drwy’r hen bentref unwaith eto i’r chwith i ddychwelyd i’r maes parcio. Y ffordd hon oedd yr A40, oedd yn dilyn llinell y ffordd Rhufeinig, Via Julia, o Gaerfyrddin i Lanymddyfri, hyd nes adeiladwyd y ffordd osgoi ym 1999.

Cyn cyrraedd nôl i’r Lodge gwelwch  ar y dde Palas newydd yr Esgob, a adeiladwyd ar safle yr hen stablau yn 1972.

Rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth

Mae gan yr hen rheilffordd hanes cymhleth, ac adeiladwyd rhannau ohoni gan gwmnïau rheilffordd amrywiol. Agorodd o’r diwedd yn 1867 a pharhau yn annibynnol nes i’r GWR gymryd drosodd yn 1911. Caeodd i deithwyr yn 1965 yn dilyn adroddiad Beeching. Ers 1975 mae Cymdeithas Cadwraeth Rheilffordd Gwili wedi adfer rhan o’r llinell. Mae’n rhedeg rheilffordd Gwili fel rheilffordd stêm maint safonol dros bedair milltir o drac rhwng Danycoed a’i orsaf ddiweddaraf wrth Gyffordd Abergwili. Gwelwyd rheilffordd Gwili yn ffilm Keira Knightley, The Edge of Love, a ffilmiwyd yn 2008.

Gwethfeydd tunplat Caerfyrddin

Sefai’r gweithfeydd tunplat lle mae safle’r cwmni adeiladwyr Jewson erbyn heddi, tua milltir o Abergwili tua’r dref. Adeiladwyd rhain yn 1759, gan ddefnyddio dŵr yn llifo ar hyd y cafn o’r afon Gwili. Cynhyrchodd haearn crai a oedd wedi’i ddipio mewn tun tawdd i gynhyrchu eitemau domestig megis caniau llaeth a bwcedi. Caewyd y gweithfeydd yn y diwedd yn 1900. Mae’r cafn ei hun yn hŷn mewn gwirionedd, wedi ei adeiladu yn wreiddiol i bŵeru melin ŷd. (Gwelir y ffwrnais chwyth mewn darlun o’r gweithfeydd haearn yn Amgueddfa Caerfyrddin.)

Rhain “Y Gwyddel” a brwydr Abergwili

Yn gynnar yn y 11eg ganrif, doedd neb mewn grym yn ne-orllewin Cymru (Deheubarth). Roedd Maredudd, ŵyr Hywel Dda,wedi uno’r deyrnas ond wedi marw yn 999. Roedd ei neiaint yn wan ac erbyn 1022 roedd Rhain “Y Gwyddel”, a honnodd ei fod yn fab i Maredudd, wedi cipio llawer o’u tiriogaeth. Mewn ymateb, daeth Llywelyn ap Seisyll, arweinydd cryf o ogledd y wlad, â byddin i’r De i ymladd yn erbyn y “Gwyddel” hwn. Digwyddodd y frwydr lle mae afonydd Gwili a Tywi yn cwrdd. Yn ôl y Croniclau,  “… after there had been great slaughter on either side equally, Rhain the Irishman, and his host were defeated … and he himself was never seen again.”

Castell Pigyn

Mae tri plasty o’r enw ‘Castell Pigyn’ wedi sefyll ar y bryn hwn yn olynol. Adeiladwyd y cyntaf cyn 1572 ac yno bu Thomas Woodford, brawd yng nghyfraith Richard Davies, Esgob Tyddewi, yn byw. Tynnwyd y tŷ hwn lawr ac fe’i ail-adeiladwyd yn 1711. Bu Jane Jones, y perchennog yn 1786, farw yn ddiewyllys. Yn ystod 30 mlynedd o ymgyfreitha i benderfynu ar yr etifeddiaeth (fy atgoffa o achos Jarndyce v Jarndyce yn ‘Bleak House’ Dickens), daeth plasty 1711 yn adfail a gwerthwyd y rhan fwya o’r ystâd i dalu’r biliau cyfreithiol. Adeiladwyd y trydydd blasty yn 1831/2 ond difethwyd ef gan dân tua 1970 a’i ddymchwel yn y diwedd yn 1981.

castellpisgyn
Castell Pigyn. Eitem gwreiddiol yng nghasgliad Peter Davis yn  ‘Parks and Gardens UK’

 

Comments are closed