Amserau Agor a Pharcio
Mae Parc yr Esgob ar agor dau ddeg pedwar awr y dydd ar hyd y flwyddyn ac mae lle parcio ar y safle.
Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ar agor o 10.00 – 4.30 dydd Mawrth – dydd Sadwrn.
Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ar gau dros gyfnod y gwyliau Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Ni chodir ffi am fynd i mewn i Barc yr Esgob nac i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Mae toiledau ar gael yn ystod oriau agor yr amgueddfa yn unig.