Taith Gerdded Felinwen a Bryn Myrddin

Taith Gerdded Felinwen a Bryn Myrddin – 4 milltir/6.5km

wwhitemill

 

Gadewch Barc yr Esgob drwy’r brif fynedfa a throi i’r dde i gerdded drwy faes parcio’r llwybr seiclo newydd. Dilynwch y llwybr ar hyd ochr wal derfyn y Parc. Gyferbyn â’r A40 fe welwch y graig noeth ble cafodd twnel 85 metr ei ddymchwel i wneud lle i’r ffordd fodern.

Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr seiclo, gan sylwi ar y bocsys du ar y wal gynnal goncrid, a osodwyd i roi cartref newydd i’r ystlumod a oedd yn byw yn nhwnel y rheilffordd. I’r dde, fe welwch Bwll yr Esgob, ystumllyn a ffurfiwyd wedi i’r afon Tywi newid ei chwrs wedi llifogydd eithriadol 1802. Mae’r gwlyptir bellach yn SoDdGA.

Daw’r llwybr seiclo newydd i ben ger pâr o gatiau newydd. Ewch yn syth yn eich blaen ar hyd ffordd gefn. Dilynwch hon heibio tai a ffermdai gwasgaredig nes cyrraedd yr A40. Dilynwch y palmant am ychydig lathenni ac yna croeswch yr A40 gyda gofal i ddilyn llwybr tarmac sy’n arwain at Felinwen.

Fe sylwch ar y dde weithdy awyr agored Jack Morris, y cerfiwr coed talentog, gyda peth o’i waith yn cael ei arddangos yno. Hefyd ar y dde, fe welwch felin Felinwen – er gwaetha’r hysbyseb ar ei wal, nid yw’n cynhyrchu blawd mwyach,. Gwelir yr olwyn ddŵr yn dal yn ei lle ar wal dde y felin.

Cymerwch y ffordd ar y chwith, gan basio’r gyn-ysgol a throi i’r chwith i fyny lôn ychydig o flaen tŷ gwyn, Maesawelon. Dilynwch y gilffordd hon rhwng adeiladau Fferm Merlin’s Grove, i fyny’r rhiw, gan agor a chau amryw o gatiau. Ar y chwith ger un ohonynt, fe welwch fynedfa i gyn fwynglawdd plwm, tu ôl i gât rydlyd.

Wrth i chi ddynesu at ddiwedd y lôn, mae’n debyg y gwelwch ddefaid Jacob, ac ym Mai a Mehefin, ochrau Bryn Myrddin yn llawn o glychau’r gôg cynhenid.

Trowch i’r chwith i’r ffordd. Y tro cyntaf i ni gerdded ar hyd hon, roedd clwb datguddwyr metal o Abertawe yn chwilio’r caeau i’r dde. Dangoson eu darganfyddiadau i ni – ceiniog arian Elisabeth 1af, darn chwech a cheiniog Sior 1af.

Ewch yn eich blaen heibio Fferm Alltyfyrddin, Canolfan Bryn Myrddin.

Trowch i’r chwith trwy giât mochyn gyferbyn â tŷ o’r enw Porth Myrddin. Ewch yn syth yn eich blaen gan groesi cae at giât. Yna dilynwch y llwybr gwastad ger ochr coetir. Bryn Myrddin yw’r tŷ mawr llwyd islaw ar y dde. Dilynwch y llwybr wrth iddo ddringo, croeswch drac coedwigaeth ac ewch i fyny’r bryn. Mewn darn arbennig o serth, rhoddwyd rhaff fel canllaw i’ch helpu dros risiau wedi treulio.

Cariwch ymlaen, gan basio cafn dŵr carreg a lenwir gan ffynnon. Mae giât yn eich arwain mewn i gae. Cadwch at y dde ac yna fyny darn serth iawn o gwmpas yr olaf o’r llwyni eithin. Fe gyrhaeddwch  olygfan Bryn Myrddin a’r bwrdd dehongli. O fan hyn, gallwch weld draw at Fannau Brycheiniog, Bae Caerfyrddin ac efallai Tŵr Paxton.

Dychwelwch y ffordd y daethoch, nôl i Borth Myrddin, gan gymryd gofal mawr lawr y darn wedi’i raffu. Trowch i’r chwith i’r ffordd. Bydd bylchau yn y berth yn cynnig golygfeydd bendigedig o ddyffryn Tywi ac olion gardd furiog Bryn Myrddin.

Dilynwch y ffordd lawr y rhiw, gan wneud defnydd o’r palmant am yr ychydig gannoedd o lathenni olaf. Ar y gwaelod, cymerwch ofal wrth groesi’r A40, a dilynwch arwyddion yr Amgueddfa nôl at Barc yr Esgob.

Y Llwybr Troed Preifat

Gallwch gymryd llwybr haws i ben Bryn Myrddin os talwch i barcio ger Fferm Alltyfyrddin, Canolfan Bryn Myrddin.

Ewch trwy’r giât gyferbyn â’r fferm a cherddwch fyny’r rhiw serth. Pan gyrhaeddwch giât, ewch i’r chwith i fyny llwybr llai serth. Wrth y giât nesaf, trwoch i’r dde ar drac fferm llydan nes cyrraedd cornel y fryngaer. Ewch yn eich blaen i gyrraedd yr olygfan. Dychwelwch y ffordd y daethoch, neu ar hyd y llwybr cyhoeddus a ddisgrifiwyd uchod, ac ar hyd y ffordd i Fferm Alltyfyrddin.

 

1.Llinell ‘Dyffryn Tywi’

Bu gwahanol enwau a pherchnogion ar y rheilffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, ond fe’i hagorwyd gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelly yn 1865 dan yr enw Llinell Dyffryn Towy, i gysylltu gyda Rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi yng nghyffordd Abergwili. Adeiladwyd y ddwy linell i wahanol fesuryddion, felly roedd yn rhaid gosod trydydd llinell o’r gyffordd i dref Caerfyrddin i’w wneud yn ddeuol bwrpas.

Ni fu’r llinell wledig hon erioed yn brysur nac yn broffidiol, felly roedd yn syndod efallai ei bod yn dal ar agor adeg cyhoeddi adroddiad Beeching. Seliodd hyn ei thynged, a chaewyd y lein yn 1963.

Defnyddir llwybr y llinell cyn belled a phosib wrth greu’r Llwybr Dyffryn Tywi newydd, 16 milltir o hyd.

2. Melin Ddwr Felinwen

Melin ŷd o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19fed ganrif ydy Felinwen. Mae ei holwyn ddŵr o haearn bwrw gyda bwcedi haearn gyr yn dal yno, a defnyddiwyd peirianwaith mewnol y felin gan gynnwys tri phâr o gerrig hyd at y 1970au.

Darparwyd pŵer y felin gan ddŵr o nant yr Annell, a gariwyd ar hyd cafn a lifai o dan y ffordd. Yna cariwyd y dŵr i’r felin  mewn cafn pren a elwid yn ‘launder’. Os safwch ar y bont droed, gallwch werthfawrogi sut y gall nant mor fach bweru melin ŷd.

Gallwch weld cynlluniau manwl a delweddau 3D o’r peirianwaith yn:

http://www.milldrawings.com/html/felinwen.html

3.Mwyngloddiau plwm Dyffryn Tywi

Am gyfnod o 50 mlynedd yn y 1850au, roedd mwyngloddiau lleol yn cynhyrchu graddfeydd helaeth o blwm, ynghyd â pheth arian a sinc, i’r de o Abergwili yn Llangynnwr. Ysgogodd pris uchel y plwm, a’r newid cyfreithiol diweddar yn caniatau sefydlu cwmniau o atebolrwydd cyfyngedig, ffurfio nifer o gwmniau mwyngloddio bychan. Gogoneddodd un yn yr enw “Cwmni Mwyngloddio Arian-Plwm a Barytes yr Arch Dduges”. Ar eu hanterth, roeddent yn cyflogi 150 o ddynion ac yn suddo siafftiau mor ddwfn a siafft Clay, 225m o ddyfnder.

Cawsant eu blynyddoedd mwyaf cynhyrchiol ar droad yr 20fed ganrif, ond cefnwyd ar y gweithfeydd yn 1902. Ychydig sydd ar ôl bellach o’r tirlun diwydiannol hwn, ac adeiladwyd parc chalet Towy View  ar ben mwynglawdd Llangynnwr. Mae hyd yn oed adfeilion anferth tŷ injan Clay a orchuddiwyd gan eiddew bellach wedi diflannu hefyd.

4. Bryngaer Bryn Myrddin

Saif bryngaer fawr Oes Haearn ar ben Bryn Myrddin, ar gynllun triongl bras yn mesur tua 300m o’r dwyrain i’r gorllewin ac yn dyddio o tua 400 COG. Ond os ydych yn mwynhau cymysgu ychydig o chwedlau yn eich hanes…..

Mae Myrddin yn ymddangos mewn gwahanol ffurfiau o’r 10fed ganrif, yn Llyfr Taliesin ac yn Llyfr Du Caerfyrddin a ysgrifenwyd tua 1250. Mae’n ymddangos yn straeon Arthur a’r Bwrdd Crwn a ysgrifenwyd yn Lloegr, Cymru a Ffrainc hyd at yr oes fodern.

Dywedir i Myrddin gwympo mewn cariad gyda Vivian a aeth ati i ddysgu ei holl grefftau hud. Pan flinodd hi arno, gosododd swyn yn ei erbyn i’w selio am byth mewn ogof grisial sydd o dan Bryn Myrddin – wrth gwrs.

Felly, os gallwch ddarganfod man ble mae’r ogof yn agos at yr wyneb, efallai y gallwch ei glywed yn galaru ei ffolineb o adael i’w gariad ddysgu ei swynau!

 

Comments are closed.